Fyth, fyth, rhyfedda'i'r cariad, yn nhragwyddoldeb pell, A drefnodd yn yr arfaeth im' etifeddiaeth well Na'r ddaear a'i thrysorau, a'i brau bleserau 'nghyd: Fy nghyfoeth mawr diderfyn yw Iesu, Brynwr byd. Ar noswaith oer fe chwysai y gwaed yn ddafnau i lawr, Ac ef mewn ymdrech meddwl yn talu'n dyled fawr; Fe yfai'r cwpan chwerw wrth farw ar y pren; Palmantodd ffordd i'r bywyd O'r ddaear hyd y nen. Rhyfedda'r fuddugoliaeth ar ben Calfaria fry, Wrth farw fe gongcwerodd fy holl elynol lu; Caethiwodd bob caethiwed, rh'odd roddion i'w ei saint, Ni fedr neb tafodau fynegi fyth eu maint. Tragwyddol glod i'r cyfiawn fu farw dros fy mai; Fe adgyfododd eilwaith o'r bedd i'm cyfiawnhau; Ar orsedd ei drugaredd mae'n dadleu yn y ne', Ei fywyd a'i farwolaeth anfeidrol yn fy lle. Er gwaetha'r maen a'r gwilwyr, Fe gododd Iesu'n fyw; Daeth yn ei law alluog, A phardwn dynolryw; Gwnaeth etifeddion uffern, Yn etifeddion nef; Fy enaid byth na thawed, A chanu iddo ef. Ni cheisia'i 'n wyneb Moses Ond Iesu i ddadleu 'nghŵyn, Y Cyfiawn tros'r annghyfiawn Fu farw er fy mwyn; Yn ymchwydd yr Iorddonen, Ac yn y farn a ddaw, Dďangol yn y diwedd Y fyddaf yn Ei law!Morgan Rhys 1716-79
Tonau [7676D]: gwelir: Ar noswaith oer bu'r Iesu Bryd nawn ar y ddedwyddaf awr a gawn Er gwaetha'r maen a'r gwylwyr/milwyr Ni cheisiai yn wyneb Moses Tragwyddol glod i'r cyfiawn Yr Iesu adgyfododd |
Forever, forever, I will wonder at the love, in a distant eternity, Which was arranged in the plan for a better inheritance for me Than the earth and its treasures, and its fragile pleasures altogether: My great, endless wealth is Jesus, the Redeemer of the world. On an cold evening he would sweat the blood as drops down, And he in a mental struggle paying our great debt; He would drink the bitter cup while dying on the tree; He paved a way to the life from the earth as far as heaven. I will wonder at the victory on the summit of Calvary above, While dying he conquered all my enemy host; He took captive every captivity, gave gifts to him his saints, No tongue is able to express ever their extent. Eternal praise to the righteous one who died for my sin; He rose again from the grave to justify me; At the throne of his mercy he is pleading in heaven, His life and his immeasurable death in my place. Despite the stone and the guards, Jesus rose alive; He brought in his powerful hand, The pardon of humankind; He made the heirs of hell, Into heirs of heaven; Let my soul never be silent, And sing unto him. I shall not seek in the face of Moses, But Jesus to argue my complaint, The Righteous for the unrighteous Who died for my sake; In the swelling of Jordan, And in the coming judgment, Safe in the end I shall be in His hand!tr. 2015,17 Richard B Gillion |
|